Cowbois Rhos Botwnnog profile picture

Cowbois Rhos Botwnnog

"these boys have had more than beans for supper"

About Me

Erbyn cyrraedd eu trydydd blwyddyn o fodolaeth mae'r Cowbois wedi cyflawni ambell i gamp, megis chwarae ar lwyfannau mawr, rhyddhau eu record-hir gyntaf, ac wrth gwrs, y plu amryliw yn eu hetiau cowboi; ennill gwobr RAP a chyrraedd brig Siart C2. A nawr dyma droi eu llygaid tua'r dyfodol a gweld fod yr amser wedi cyrraedd iddynt dynnu'r tannau swn drwg oddi ar eu ffyn canu, a'r crwynau tewion oddi ar y tybiau, a gyrru'r gwartheg i fyny'r dyffryn. Bydd y Cowbois yn cydweithio hefo Gwyneth Glyn a Jôs-Pedal-Stîl yn y dyfodol agos ac yn rhyddhau sengl, ac yna yn hogi cyllyll a chladdu mewn i'w record-hir nesaf. Ac yna, yn hwyrach, caiff y tannau swn drwg ddychwelyd, a caiff Dei brynnu boncyffion praff unwaith eto, yn hytrach na rhyw grwyn-goswyr tila.

Cowbois Rhos Botwnnog are three brothers from Llaniestyn who experiment with folk music and hillbilly punk. The band worked with Dyl Mei on their debut album, Dawns y trychfilod, and was released on the Sbrigyn Ymborth label.

My Interests

Music:

Member Since: 3/20/2006
Band Website: Albym: sebon.co.uk/template.asp
Band Members:

Twm Colt- Llais, Gitars, Bass, Synths, Banjo, Mowth Organ, Piano

Edgar Sgarled- Llais, Gitars, Bass, Vocoder

Dei Morlo- Llais, Waldio


Influences: Gram Parsons, Neil Young, Bob Delyn 'ar Ebillion, Townes Van Zandt
Sounds Like: Rocka-Psychobilly, am wan.
Record Label: Sbrigyn Ymborth
Type of Label: Indie

My Blog

Blog newydd.

Pnawn da orllewinwyr mwyn, heb sgwennu blog ers tro byd a meddwl bysa gwell neud. Ar ôl bod yn gigio'n galed dros yr ha' dani am ddychwelyd i'r sdiwdio yn fuan. Mi fyddan yn rhyddhau sengl hefo ...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Tue, 11 Sep 2007 04:27:00 PST

Dawns y Trychfilod

Henffych orllewinwyr mwyn, Wedi hen aros mae'r albym yn barod ac ar fin cael ei rhyddhau, dyna ryddhad! Mae'r gwaith celf a phob dim yn barod, ag yn edrych yn dda hefyd. A mi fydd yna grysau...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Tue, 03 Apr 2007 08:17:00 PST

Albym Cowbois Rhos Botwnnog / Cowbois Rhos Botwnnog's album

Bydd albym Cowbois Rhos Botwnnog allan yn y siopa ledled Cymru ar yr 16ed o Ebrill. Bydd hi hefyd ar werth ar daith Tafod 2.   Cowbois Rhos Botwnnog's album will be in the shops on the 16th of A...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Sun, 25 Mar 2007 10:10:00 PST

Cowbois ar daith / Cowbois on tour

Cowbois ar Daith   Mae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn o gyhoeddi mai Cowbois Rhos Botwnnog fydd y prif fand ar ail Daith Tafod sydd i'w chynnal ym mis Ebrill. Bydd Yucatan a Mr H...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Sun, 25 Mar 2007 10:02:00 PST

Ahoy

Reit, helo ers tro. Ma'r Cowbois wedi bod yn brysur drost yr haf. Nathoni chwara lot o gigs, a'r rei syn aros yn y cof ydi'r rei yn Sesiwn Fawr a sdeddfod. Diolch i pawb fuodd yn jeifio. Dani'n mynd i...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Mon, 28 Aug 2006 07:21:00 PST

Fideo

http://lads.myspace.com/videos/vplayer.swf?u=YUhSMGNEb3ZMMk5 2Ym5SbGJuUXViVzkyYVdWekxtMTVjM0JoWTJVdVkyOXRMekF3TURnMU1EQXZ OREF2TkRVdk9EVXdNRGsxTkRBMExtWnNkZz09&d=177" type="application/x-shockwave-f...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Wed, 21 Jun 2006 04:03:00 PST

Cyfweliad Chwim, Nadolig 2005

Pryd benderfynoch chi ffurfio band, a pham? Twm Colt: Tua blwyddyn yn ôl, doedd y gwartheg ddim yn rhoi llawer o waith i ni ar y pryd. Sut wnaethoch benderfynu ar enw? oedd yna anghytuno? Twm Colt:...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Fri, 31 Mar 2006 09:26:00 PST

Neges fer i gowbois

Darllediad o helynt y Cowbois yng nghadarnle'r Bandits ar gael ar wefan www.bandit247.com 'Chwaneg o lynia wedi postio ar y wefan yma hefyd.
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Fri, 24 Mar 2006 05:56:00 PST

Bandits

Noswaith dda, orllewinwyr mwyn, Bu Dei ar ben to'r cwt heddiw ma hefo morthwl a llif ceisio ffidlan efo erial y telibocs ma, er mwyn dal darllediad Bandit o'r ddinas fowr ddu dach'weld. Wedi...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Thu, 23 Mar 2006 03:18:00 PST

Cowbois

Henffych gyfeillion, Croeso i flog y cowbois, yma y mae pedair can i chwi. Yn anffodus nid yw y wefan hon wedi arfer a theitlau hirfaith y cowbois, felly gorfu talfyrio enwa ychydig o'r caneuon. Y tei...
Posted by Cowbois Rhos Botwnnog on Mon, 20 Mar 2006 08:51:00 PST