Sefydliad di-elw ydi Radio Amgen a lansiwyd yn 2001 gan Steffan Cravos (Tystion, Fitamin Un, Brechdan Tywod, Sleifar) yn sgil diffyg allbwn ar gyfer cerddoriaeth amgen ac arbrofol yng Nghymru.
Ar y pryd roedd Cravos yn derbyn llawer o ddemos diddorol gan nifer fawr o artistiaid ond oherwydd diffyg cyllideb ariannol doedd dim posib iddo rhyddhau'r holl gynnyrch hwn. Er mwyn rhannu'r gerddoriaeth newydd yma a chynulleidfa eang a rhoi cyfle i artistiaid amgen nad oedd yn derbyn unrhyw sylw gan gyfryngau Cymru, penderfynwyd i droi at gyfrwng gwahanol, sef y we.
Fe'i ysbrydolwyd gan yr orsaf radio Cymraeg gyntaf ar y we, sef Radio D. Ffrwyth llafur Johnny R o Recordiau R-Bennig oedd Radio D a ddaeth i ben ychydig fisoedd cyn geni Radio Amgen. Darlledwyd y sioe gyntaf ym mis Hydref 2001. Ethos cerddorol Radio Amgen oedd darparu cerddoriaeth danddaearol newydd gyda'r pwyslais ar hip hop, electroneg, drwm a bas, bwtlegs, tecno, swn a dyb i wrandawyr ledled y byd.
Bu cyfnod cyntaf yr orsaf rhwng Hydref 2001 a Thachwedd 2002 a darlledwyd 50 o sioeau yn wythnosol gan gynnwys sesiynau egsgliwsif gan yr Athro Diflas Ffwc ac Y Soffas (enw gwreiddiol Y Lladron), Stylus , Y Celfi Cam, SJ Ohm, Gwalchmai Teleffon X-Change a Y Dull Duckworth Lewis. Yn ogstal, darlledwyd setiau o berfformiadau byw gan Llwybr Llaethog , Trawsfynydd Lo-Fi Liberation , Labordy Swn Cont... a derbyniwyd nifer fawr o sioeau gan DJs a chynhyrchwyr fel Recall a DJ Dai Trotski. Erbyn yr hanner canfed sioe, newidiodd cyfrwng sioeau Radio Amgen o RealAudio i mp3. Golygai hyn y gallai gwrandawyr islwytho ac arbed y sioeau i'w chwaraewyr mp3 a llosgi'r cyfan ar CD.
Er bod y wefan ei hun yn uniaith Gymraeg, mae'n eithaf hawdd i unrhyw un di-Gymraeg islwytho sioeau ac mae gan yr orsaf wrandawyr yn yr UDA, Ffrainc, Siapan, yr Almaen ayyb. Roedd pethau'n edrych yn iach i'r orsaf gyda dros 2500 ergyd y mis ar gyfartaledd, ond yn sgil trafferthion technegol ac ariannol aeth yr orsaf yn dawel ar ol darlledu 50 o sioeau bob wythnos.
Dychwelodd Radio Amgen unwaith eto rhwng Ebrill ac Awst 2003 gan barhau i ddarlledu'n wythnosol. Darlledwyd naw sioe gan gynnwys sesiwn egsgliwsif gan Kentucky AFC . Daeth y cyfnod byr hwn i ben yn dilyn cyfuniad o ddiffyg arian, adnoddau, cysylltiad gwe a phroblemau personol ym mywyd Cravos.
Ers mis Awst 2005 a bellach yn ei thrydydd cyfnod, mae Radio Amgen unwaith eto yn darlledu sioeau wythnosol a dyma'r wefan gyntaf yn y byd i podgastio rhaglennu Cymraeg.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrannu mewn unrhyw fodd, byddawn yn falch i gael clywed gennych chi. Cysylltwch hefyd os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu sioe ar gyfer yr orsaf.
Mae Radio Amgen yn podledu pob sioe, y wefan gynta i wneud hynny yn y Gymraeg. Beth yw podledu? Yn syml, ffordd o danysgrifio i'r sioeau yw podledu. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid ymweld a'r safle i wybod fod sioe newydd wedi ei chyhoeddi. Dyma dri ffordd o danysgrifio i'r podlediad:
iTunesOs oes gennych chi feddalwedd iTunes ar eich cyfrifiadur mae'n bosib tanysgrifio drwy glicio ar y ddolen yma . Fe fydd hwn yn agor iTunes gyda gwybodaeth am y sioe. Drwy danysgrifio, fe fydd iTunes yn llwytho sioeau newydd i'ch cyfrifadur yn otomatig.
Meddalwedd podleduEr fod iTunes wedi ei addasu yn ddiweddar i gefnogi podlediadau, mae meddalwedd arbennigol wedi bod ar gael ers tipyn, sydd yn gadael i chi danysgrifio o bodlediad a hyd yn oed ei drosglwyddo'r sioe yn otomatig i'ch iPod neu'ch chwaraewr MP3.
Rydym yn argymell meddalwedd iPodder ond mae digon o ddewis ar gael.
Darllenydd RSSOs ydych yn defnyddio darllenydd RSS (gweler isod am feddalwedd) er mwyn darllen y negeseuon diweddaraf er eich hoff flogiau, mae'n bosib tanysgrifio i'r ffeil RSS yn union yr un fath. Fe fyddwch wedyn yn gweld dolen er mwyn llwytho lawr ffeil MP3 ar gyfer pob sioe. Copiwch a gludwch y cyfeiriad canlynol i'ch meddalwedd:
Generate your own contact table!