Yn ddiweddar dwi wedi bod yn dwyn eirin bach oddi ar goed y festri a nofio yn y mor yn Dinas Dinlla yn noeth lymun gorn.Dwi'm yn gwbod pam ffwc bo fi di agor cyfri MySpace. Myrath ma raid. Dwi ddim yn gallu canu, dwi ddim yn artist a sgen i ddim rheswm i farchnata fy hun ar y we. Ma'r holl bobol dwi isio yn ffrindia cyber i mi yn ffrindia go-iawn i mi yn y byd go-iawn felly dwi ddim yn dallt hynna chwaith. O wel, ga ni weld be ddigwyddith.R*E*UAr hyn o bryd dwi'n meddwl am straeon mewn stafell lliw lelog yn y Felinheli, ac yn trio perswadio fy hun y gwneith y ddrama lwyfan newydd ma dwi heb ei chychwyn eto, ddim brathu. Fy uchelgeisiau cyn diwedd y flwyddyn yw dechrau dysgu sut i ganu'r organ geg, sgwennu un drafft o'r ddrama ma, mynychu gwersi ioga a chwarae badminton yn rheolaidd, a chynilo digon o bres i fynd i Brasil yn y flwyddyn newydd.Un cwestiwn bach: pam bo fi methu gwneud paragraffa gwahanol ar y sglyf peth ma??
Pass along this small tribute, copy this code.Mi olygais fy mhroffeil gyda Thomas' Myspace Editor