I'r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gwybod beth yw Beirdd v. Rapwyr, mae'n amser deffro...
Mae Beirdd v. Rapwyr yn cyfuno elfennau o ymrysonau talwrn y beirdd, traddodiad byrfyfyr y Calan a Chalennig, gornestau byrfyfyr rapwyr a chydig o gerdd dant.
Be sy'n dod allan y pen arall yw digwyddiad cyffrous - un tim o feirdd, un tim o rapwyr, DJ a Godrapiwr yng nghanol pawb yn cadw trefn.
Mae'n frwydr - does neb yn hoffi colli, ac mae gan y beirdd ac y rapwyr alergedd i golli brwydr.
Mae'r digwyddiad yn dibynnu ar allu'r beirdd i rapio a gallu y rapwyr i farddoni, yn ogystal a medru gwneud be mae nhw fod i 'neud, a'i wneud yn dda. Dim ond un cam-eirio, un fethu beat, un cam rhy bell ac mae'r frwydr drosodd.
Gobeithio bydd ychydig o gigs yn y flwyddyn newydd, 1 yng Ngwynedd ac un arall ger Wrecsam.
My Interests
I'd like to meet:
Rapwyr, beirdd, pobol gyda awydd gweld petha bach yn wahanol ac od weithiau hyd yn oed.
My Blog
Taith Beirdd v. Rapwyr
Pam Beirdd v. Rapwyr a dim Rapwyr v. Beirdd? Cwestiwn da - dim ateb. Oherwydd y Wyddor? Posted by on Thu, 20 Jul 2006 17:07:00 GMT