Baban Sgwiral profile picture

Baban Sgwiral

About Me

Un dydd Sul oer ym mis Ionawr 2004 mynychodd 2 allan o 5 aelod baban sgwiral (ynghud a un person arall) i weithdy gwallgofiaid yn Llanllyfni. Yno fe sgwennwyd a perfformwyd can wirion iawn or enw "Helo" gan y band (enw'r band bryd hwnnw oedd "Ffaffian"). Doedd y gan ddim yn gwneud unrhyw synnwyr ond yn hytrach yn canolbwyntio ar phrases oedden ni'n ei hoffi a geiriau cwl megis "bwrw cwrw". Ond, o'r gweithdy hyn dysgodd Mari fod sgwennu caneuon yn hwyl.Un diwrnod cafodd Mari wybod dros y we nad Ffaffian oeddynt bellach ond Baban Sgwiral. Yn y pen draw cytunodd hithau. Hyd heddiw, mae pobl yn gofyn i mi beth yw ystur yr enw ac bob tro, mae'n rhaid i mi ateb gyda "dim syniad". Pan ydwi'n gofyn wrth Richard, ma'n pwyntio at gefn ei ben ac yn dweud "fana". Diolch!Roedd y band wedi'w ffurfio o ran caneuon (gyda Mari'n sgwennu caneuon ffwl-pelt a Richard yn ychwanegu ambell un) ac o ran 2 aelod. Ond 2 gitar oedd y rhain. Darganfuwyd Delyth mewn ogof dywyll ym Mhenllyn yn rhywle a drwy lwc roedd hi'n gallu chwarae'r organ yn wych. Disgynodd Gareth o'r awyr gyda'i ddrymiau (a'r fuwch-gloch sydd yn hanfodol i un o'r caneuon). Nawr dim ond un aelod oedd ar goll. Chwareuwr Bas. Er chwilio ym mhob man nid oedd un addas a ddigon gwirion. Ond daeth Sion Corn i achub y dydd. Daeth a gitar fas i Elis dolig ac felly roedd y band yn gyflawn.Ffurfiodd y band yn iawn ddiwedd Ionawr 2005 ond ers hynny mae gitarydd arall wedi ymuno; Huw. Diolch i Huw and his fingers of fire, mi rydan ni'n fwy cerddorol fyth!Denin rhyfedd di dalent di-chwaeth, deni'n hull ond ma gena ni gerddoriaeth

My Interests

Music:

Member Since: 2/17/2006
Band Website: www.sgwiral.co.uk
Band Members: Mari - Llais,Gitar
Delyth - Allweddellau
Richard - Gitar
"Picals" - Drums
Elis - Bas
Huw - Gitar
Sounds Like: Cerddoriaeth Neis, Cerddoriaeth Neis iawn!
Type of Label: Major

My Blog

Blog .2

Helo blog, mai bron yn flwyddyn ers i mi sgwennu ynddot. Rwy'n teimlo'n ddrwg blog, yn ddrwg iawn. Ta waeth, mae'r wefan wedi ei orffen ers tua 5 mis ond whatever, sna neb yn mynd arni eniwe.  Ca...
Posted by on Tue, 13 Feb 2007 14:00:00 GMT

Safwe

Dwi dal heb gael yr gwybodaeth sydd angen i orffen y safwe gan Richard, tydio'n pw. Eniwe, fydd o fyny cyn pen dim, diwedd wythnos fel mae'r safwe'n dweud:www.sgwiral.co.uk
Posted by on Tue, 07 Mar 2006 11:59:00 GMT