Yr Annioddefol profile picture

Yr Annioddefol

About Me


Myspace Layouts - Myspace Editor - Image Hosting

Mi fydd yr Annioddefol yn chwarae eu gig olaf yn Maes-B flwyddyn yma, ar ôl 5+ mlynedd o hwyl a sbri. Hoffwn ddiolch i bawb am y gefnogaeth!
Yr Annioddefol will play their last gig at Maes-B this year, after 5+ years of fun and games. We'd like to thank everyone for their support!

My Interests

Music:

Member Since: 8/12/2005
Band Members: Llio Maddocks ~ (Prif Lais / Main Vocals), Ceri Murray ~ (Gitar Flaen + Llais Cefndirol / Lead Guitar + Backing Vocals),Gruff Vaughan ~ (Gitar Rhyddm / Rhythm Guitar),Ben Tunnicliffe ~ (Gitar Fas / Bass Guitar),Paul Cockerill ~ (Drums)
Sounds Like: "Ma hon yn albym gynta wych, ac o gofio mai oed ysgol oeddan nhw'n recordio, mae'n anhygoel.

Cyfuniad o power pop catchi, reggae uplifting a baledi hyfryd iawn - efo digon o glasuron yn eu mysg - efo cynhyrchiad o safon uchel.

Mae'na berlau arni - Geiriau Gwir, Stafell Fyw (class) i enwi jesd dwy, a'r cwbwl yn gorffan efo cân hyfryd i hogyn ifanc, poblogaidd, o'r ardal, a laddwyd mewn damwain yn ddiweddar.

Band sy'n gallu sgwenu caneuon bachog, tiwns neis, a gneud gwahanol steils, a sgwenu teimladwy am brofiadau amrywiol bywyd.

Os na all y Cymry Cymraeg foddran talu £5 am albym fel hon, a cefnogi band mor ifanc, efo cymaint o dalent ac addewid, yna mae'n rhaid i mi gytuno efo Ann Robinson - be ffwc ydi'n pwynt ni fodoli?"

Dewi Prysor - Vates, 2007


Yr ail fand ymlaen oedd Yr Annioddefol. Band o Flaenau ydi nhw yn wreiddiol gyda Llio yn canu, Ceri ar gitar, Paul ar dryms ac aelodau gymharol newydd sef Gruff (o Llanrwst) ar y gitar a Ben (gynt o'r Wyrligigs) ar y bass.

Dwi'n meddwl fod yr aelodau newydd wedi gwella'r band a mae pethau yn edrych ar y gweill i'r band gyda'u albym i fod allan yn fuan, a nifer o gigs yn dod. Mae'n glir fod yna rywbeth o gwmpas mynyddoedd Eryri sy'n creu bandiau reggae... o Anweledig i'r Di Pravinho o Eifionydd, a mae Yr Annioddefol yn un o'r bandiau hyn. Mae'n reit rhyfeddol clywed band ifanc yn chware 'Jah Vibes Cymraeg o Tref y Cymylau a'r Glaw'.

Mae'r band wedi datblygu ers y tro diwethaf wnes i glywad y band, a un diwrnod mi fydd Yr Annioddefol i gymharu a bandiau gorau yr S.R.G.

Adolygiad o gig ym Mlaenau Ffestiniog, 2006
Type of Label: Unsigned

My Blog

Can Newydd i’w Lawrlwytho!

Mae ein can newydd 'Drysu' nawr ar gael i'w lawrlwytho i ffwrdd o'n myspace. Ma hon yn replacio'r fersiwn sesiwn C2 efo un llawer gwell! Mi fyddwn ni'n perfformio'r gan yma yn Liet Lavlut yn Sweden ar...
Posted by on Sat, 06 Sep 2008 14:40:00 GMT

23/06/08 -- Yr Annioddefol yn Ennill yn Inverness -- Yr Annioddefol winning in Inverness

Helo pawb,Mae'n debyg eich bod chi'n annwybodol bod Yr Annioddefol wedi bod yn Inverness, Yr Alban o nos Wener yr 20fed i Nos Sul yr 22ain yn cystadlu mewn cystadleuaeth i ieithoedd celtaidd o'r enw '...
Posted by on Mon, 23 Jun 2008 08:44:00 GMT

Biog Cymraeg

Ffurfwyd Yr Annioddefol er mwyn cystadlu mewn Brwydyr Bandiau yn Ysgol y Moelwyn. Er na ennillodd y band y gystadleuaeth, aeth y band ymlaen i chwarae gigs tafarn yn lleol, a daeth y band ifanc yn adn...
Posted by on Wed, 14 May 2008 11:12:00 GMT

English Biog

Yr Annioddefol (pronounced ur-ani-o-devol...sort of!), was first put together in order to compete in a school 'Battle of the Bands.' Although they were unsuccessful in their first attempt as a band, a...
Posted by on Mon, 12 May 2008 10:32:00 GMT

Yr Annioddefol yn cystadlu yn yr Alban!

Mae'r cerddorion terfynol wedi cael eu dewis ar gyfer cystadleuaeth ieithoedd Celtaidd ac Albanaidd, i'w gynnal yn Inverness fel un o bedwar cystadleuaeth rhanbarthol ar draws Ewrop.Fe dderbyniodd Nòs...
Posted by on Tue, 15 Apr 2008 09:48:00 GMT

STIIIIIWDIO

Reit, dwi'n meddwl bod o'n amser sgwennu blogan newydd! Mai yn mis Mawrth a eto eleni mae 'Yr Annioddefol' yn mynd ir stiwdio i recordio ein hail albym!, hyd yn hun da ni heb feddwl am enw i'r albym o...
Posted by on Mon, 10 Mar 2008 11:30:00 GMT

---Newyddion-21/01/08-News---

Hello Pawb, Ers tro dwytha' mae'r Annioddefol wedi cwbwlhau Sesiwn C2 yn stiwdio Rich Gola Ola. Fydd yr sesiwn yn cynnwys tair trac newydd sbon gyda'r teitlau 'Drysu', 'Texi Bach' ac 'Ar Goll'. Ma'r ...
Posted by on Mon, 21 Jan 2008 07:12:00 GMT

--Newyddion--News

Helo pawb, dyma'r diweddara' am be sy'n mynd ymlaen efo'r Annioddefol. :)Ddaru ni beidio rhoid gan ymlaen i Can i Gymru yn y diwedd gan bod yna wedi bod problemau efo ca'l amser recordio cyn yr dyddia...
Posted by on Tue, 01 Jan 2008 03:31:00 GMT

Can i Gymru?

Mae'r Annioddefol yn dychwelyd i'r stiwdio ar ddiwedd Tachwedd er mwyn ail-recordio "Ers i ti adael (Can Ian)" gyda'r bwriad o gystadlu yng nghystadleuaeth Can i Gymru '08.Mwy o wybodaeth i ddod
Posted by on Thu, 08 Nov 2007 09:19:00 GMT

Perfformiadau Uned 5

Mae ein perfformiadau Uned 5 i'w gweld drw glicio'r linciau yma:MachludGeiriau Gwir
Posted by on Sun, 17 Jun 2007 14:49:00 GMT