Madre Fuqueros profile picture

Madre Fuqueros

About Me

Ffurfiwyd, Madre Fuqueros ym mis Gorffenaf 2007 gyda'r bwriad o gystadlu ym Mrwydyr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug y mis olynol. Er fod y grwp wedi bodoli ar bapur ar y ffurflen ymgeisio ers mis Chwefror, ni ymgynullodd y band tan yr haf yn Nhy Newydd Sarn. Ar ol 3 awr o ymarfer, 1/4 awr o set, 3 olwyn fflat, 1 cymbal di cracio, a chyraedd y rhagbrawf awr yn hwyr aeth y Madre Fuqueros ynghyd a Johnny Horizontal ymlaen i'r rownd derfynol yng Ngwyl Grug yng Nghlwb Rygbi'r Wyddgrug, dydd sadwrn ola'r sdeddfod. Yno mi gipion ni deitl enillwyr Brwydyr y Bandiau 2007. Ma'r ffaith ein bod ni wedi curo yn dangos nad ydi gwaith caled a pharatoi ddim wasdad yn talu, a bod ei rocio hi fo llwyth o giamocs a hwyl yn cael ganwaith fwy o argraff. Erbyn heddiw, dani wedi ychwanegu aelod newydd i'r band, sef Dean Cavey (a oedd gynt yn yr RAF o dan y teitl ACDC - Air Craftsman Dean Cavey), sydd yn ein galluogi ni i foddi pob can mewn harmoniau megis Thin Lizzy. Dani newydd gwblhau Taith Tafod Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi Derwyddon Dr Gonzo, a chipio teitl brwydyr y Bandiau Maes-B 2008. Felly, ar ol i ni gwblhau recordio'r sesiwn C2 cyntaf, mi awni ymlaen i recordio un arall. Sa'n well i ni hel ein traed mashwr.

My Interests

Music:

Member Since: 29/03/2007
Band Members: Sion Maredydd: Prif Lais a Bas_________________________________ Osian Williams: Drums_________________________________ Dean Cavey: Gitar_________________________________ Huw Edwards: Gitar_________________________________
Influences: Bandia efo bach o fols iddyn nhw fatha AC/DC, Airbourne, The Answer, The Datsuns, The Darkness, Guns 'N' Roses, Led Zeppelin, Nar, Queen, Stone Gods, The Stooges, Thin Lizzy, Tokyo Dragons, Turbonegro, Wolfmother, a ballu, cerddoriaeth yn bennaf o'r genre Classic Rock. Y Rhegiadur. Rydym hefyd yn ysgolheigion o syniadaeth Fraudian.
Sounds Like: Yn ol be ma pobol di ddeud, "Ballsy" Neu i ddyfynu Osian Gwynedd "Fflipinec, dwi'm di clwad dim byd fylma yn Gymraeg ers blynyddoedd!" Llu maraid fodnin neud rwbath yn iawn.

Record Label: Unsigned

My Blog

Blog MkI

(see below for english version) Blog cynta. Chydig bach i ddeud, ma genani gig yn yr Anglesey Arms yng Nghaernarfon nos wenar yma (28/11/08), lle y bydd Osian Williams (gynt o Pala) yn cymyd drosodd a...
Posted by on Wed, 26 Nov 2008 07:25:00 GMT