About Me
Myspace Editor
Pimp MySpace
The prototype for Super Furry Animals, and once one of the foremost pop bands in Wales
Ffa Coffi Pawb are best known as the band that later mutated into Super Furry Animals.
Gan fod pethwmbreth or tapiau gwreiddiol ar goll mewn mannau tywyll bun rhaid defnyddio amrywiaeth o wahanol fformatiau ( casetiau plastig, feinil o wahanol feintiau, siâp a chyflwr, tapiau DAT a mini-discs ) er mwyn gwireddur casgliad yma.Yn ystod gyrfa Ffa Coffi Pawb, fe gariwyd eu caneuon gan sawl ffrwd gan gynnwys label Casetiau Huw , tair albym i Recordiau Ankst , amryw o recordiau 12 ynghyd âu label nhw eu hunain Siwgwr.
Chwalodd y band yn ystod Haf 1993 rai misoedd wedi rhyddhau Hei Vidal.Rhywle rhwng Hwgr Grawth Og , Y Brawd Houdini, White light White Heat, Maffia Mr Huws a chysgod Eryri - rhywle fanna ma Ffa Coffi Pawb. Beth sydd i ddisgwyl gan fand a esblygodd wrth droed y chwareli rhwng môr a mynydd mewn pentref Cymreig a Chymraeg gydar enw Hebraeg, Bethesda?I fod yn bersonol. Roedd trefnu gig ysgol i Ffa Coffi Pawb yn creu roblemau. Creu posteri a dosbarthur posteri yna o gwmpas tref Llanr wst ac yn yr ysgol..ar posteri ynan dweud Ffa Coffi Pawb! Tri peth dw in cofio am y gig. Yn gyntaf cwyn gan y band - roeddwn wedi cyfaddawdu trwyu hysbysebu nhw fel Ffa Coffi. Penaeth yr ysgol - yn tynnu sylw at y perygl y gallai pobl gam-ddehongli enwr band fel rheg at y byd ar betws, a finnen awgrymun gynnil maii ddychymyg e oedd ar fai.
Y band ( mewn cyfnod pan roedd pob gig yn werthfawr iddynt ), yn bygwth tynnu allan or noson ! Wedyn, y band ar lwyfan. Dim ymdrech i gyfaddawdu. Ar ôl hanner dwsin o ganeuon llawn cynnwrf di-reol gyda llinnyn yn ymestyn o Galiffornia trwy Glasgow a Chaergybi i Fangor Ucha a Nant Ffrancon... gadael y llwyfan gydar gitarau ar lawr a feedback swnllyd yn llenwir lle. Neb yn siwr a oedd y set wedi dod i ben neu beidio.
Ar trydydd peth ? Y sicrwydd bod y band yman mynd i lwyddo. Dw i ddim yn cofio pwy oedd prif fand y noson.Llwyddiant. Ar awst 4ydd, 1987, cafodd FfCP £20 am chwarae yn Eisteddfod Porthmadog - y band cyntaf ar y llwyfan cyn Yr Orsedd, Edrych
Am Jiwlia, U-Thant, Tynal Tywyll a Y Cyrff yn headleinio!
Erbyn hynny roeddent wedi rhyddhau y caset cyntaf - Torrwyr Beddau Byd-Eang Cyf. Roedd y swreal yna or cychwyn - ac roedd yr hiwmor dun
ganolog i fywyd y band. Dim syndod yn ddiweddarach yng ngyrfar band bod pethau od yn digwydd - Dw in troin ffrwyth . Digon teg.Swreal. Anelu at lwyddiant trwy ryddhau Octapws y caset 3-chân ar label Casetiau Huw. Cyfweliad gyda Huw Gwyn ar Pier Bangor yn datgelu mai caset Ffa Coffi Pawb a label Casetiau Huw oedd dyfodol y sîn roc yng Nghymru. Adolygydd yn y cylchgrawn tanddaearol Llmych yn deud y cyfan....ces i sioc - maer caset yman dda - na - yn dda iawn. Falle bod nhwn dechrau cymryd eu hunain o ddifri!.
Efallai.
Dilyn hyn gyda Dafydd a Gruff yn ymuno gyda Dewi Gwyn ( Y Sefydliad ) a Huw Gwyn i ail-greu Trip Dewi Emlyn ac yna Ffa Coffi Pawb yn rhyddhaur caset 10-cân, Dalec Peilon ( Casetiau Huw ).Os oes un peth mae pob band yn anelu ato - y peth hwnnw yw ei swn ei hunan. Or cychwyn cyntaf roedd y gymysgedd o gerddoriaeth a ddaeth danenw Ffa Coffi Pawb yn wahanol. Nid jest y gerddoriaeth ond y defnydd o swn y geiriau ar gallu I ddefnyddio clapio dwylo, canu harmoni, gitarau jangli, geiriau di-eiriau a tiwns.
Rwyn herio chi i wrando ar y casgliad yma heb dorri allan i ganu gydar band ar rai or caneuon. Glynodd y band at fynnu bod cynulleidfaoedd yn
derbyn bod ganddynt weledigaeth amgenach nar cyffredin ond roedd y weledigaeth yman cynnwys creu tiwns syn aros yn y côf ac yn mynnu gwthio I fewn ir ymennydd amseroedd od or dydd - ar nos. Y gwir amdani yw bod y caneuon wedi goroesi oherwydd eu bod uwchlaw cyfnod a lle.
Un peth yw benthyg syniadau o gerddoriaeth syn ymestyn dros dri degawd - peth arall ywr gallu i ddewis y syniadau gorau a chlymu i fewn ddychymyg i greu rhywbeth unigryw.
Dyna beth oedd, ac yw, llwyddiant Ffa Coffi Pawb.
Dyna pam fod y gerddoriaeth yman goroesi amser.Ar ddiwedd y gig yn Llandudno, nos Sul Awst 6ed, 1989 - Llwybr Llaethog, Ffa Coffi Pawb a Blodau Cyntefig - rhuthro at y band i ddweud bod nhwn ffantastig.
Rhodri Puw yn edrych yn syth i fy ngwyneb - Ble mar arian ?!
Digon teg - Lluchia dy fflachlwch drosta I, gafael yn dynn ac off â ni i Sacramento - ond paid anghofior Valium.
Ffa Coffi Pawb formed in Bethesda, N. Wales in 1986. They had 3 Ankst albums and toured for 5 years. In time vocalist and guitarist Gruff Rhys and drummer Dafydd Ieuan went on to form Super Furry Animals. Guitarist Rhodri Puw joined Gorkys Zygotic Mynci and Bassist Dewi Emlyn has toured extensively behind the scenes with numerous bands.